Cynlluniau datblygu yng Nghonwy
Yr ardal y mae'r cynlluniau yn eu cwmpasu
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yw'r awdurdod cynllunio dros y rhan o Gonwy sydd y tu allan i Barc Cenedlaethol Eryri. Mae gan Barc Eryri eu hawdurdod cynllunio eu hunain a gellir cysylltu â hwy yn: www.eryri-npa.co.uk
Beth yw cynlluniau datblygu?
Mae Cynlluniau Datblygu yn gosod polisïau ar ddatblygu a defnyddio tir. Maent yn cael eu defnyddio i benderfynu ar geisiadau cynllunio ac mae rhaid eu dilyn oni bai fod yna resymau cynllunio dilys i’r gwrthwyneb.
Cynlluniau sydd wedi eu mabwysiadu
Dyma'r cynlluniau datblygu sydd wedi bod drwy'r holl gamau ffurfiol. Yng Nghonwy, y cynlluniau sydd wedi eu mabwysiadu yw Ail Ddiwygiad Cynllun Fframwaith Clwyd (Fersiwn Conwy), Cynllun Fframwaith Gwynedd, Cynllun Lleol Bwrdeistref Colwyn a Chynllun Ardal Llandudno / Conwy.
Gallwch ganfod pa gynlluniau sydd yn berthnasol i ba ardaloedd naill ai drwy:
- glicio yma, ac yna ar y cynllun datblygu yr hoffech ei weld. Nid oes gan y ddau Gynllun Fframwaith fapiau cynigion; neu
- edrych ar y tabl hwn.
Hen Fwrdeistref Aberconwy
Mae'r ardal hon yn ymestyn o Lanfairfechan yn y gorllewin i Fae Penrhyn yn y dwyrain, ac i'r de y tu hwnt i Benmachno. Fodd bynnag, mae rhan o'r ardal hon yn gorwedd o fewn Parc Cenedlaethol Eryri. Mae dau gynllun mabwysiedig yn berthnasol i’r ardal hon:
- Mabwysiadwyd Cynllun Fframwaith Gwynedd yn 1993 ac mae'n gyfrifol am y cyfan o ardal Aberconwy.
- Mabwysiadwyd Cynllun Ardal Llandudno / Conwy yn 1982. Mae'n gyfrifol am Landudno, Conwy, Deganwy a Chyffordd Llandudno ac yn ymestyn tua'r dwyrain i Fae Penrhyn, tua'r gorllewin i Gonwy ac i'r de mor bell â Glan Conwy.
Hen Fwrdeistref Colwyn
Mae'r ardal hon yn ymestyn o Landrillo-yn-Rhos yn y gorllewin i Fae Cinmel yn y dwyrain ac ymestyn i'r de mor bell â Llangwm. Mae dau gynllun mabwysiedig yn berthnasol i’r ardal hon:
- Mae Ail ddiwygiad Cynllun Fframwaith Clwyd (Fersiwn Conwy) yn cwmpasu ardal hen Fwrdeistref Colwyn. Mabwysiadwyd y cynllun yn 1999.
- Cafodd Cynllun Lleol Bwrdeistref Colwyn hefyd ei fabwysiadu yn 1999, ac mae'n cwmpasu ardal hen Fwrdeistref Colwyn.
Cynllun heb ei fabwysiadu
Tan 2004, roedd y Cyngor yn paratoi Cynllun Datblygu Unedol Conwy, a fwriadwyd i ddisodli’r pedwar cynllun mabwysiedig. Yn dilyn cyngor gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, mae gwaith ar y cynllun hwnnw wedi dirwyn i ben. Er bod gan y cynllun llai o rym na chynllun mabwysiedig, mae’n dal i gael ei ddefnyddio mewn rhai amgylchiadau i benderfynu ar geisiadau cynllunio.
Cynllun Datblygu Lleol
Mae’r Cyngor ar hyn o bryd yn gweithio ar y cynllun hwn. A fyddwch gystal â chyfeirio at dudalennau wê’r Cynllun Datblygu Lleol.
Pa gynlluniau sydd yn berthnasol i ba ardal?
Bwriad y tabl isod yw egluro pa gynlluniau sydd yn berthnasol i ba gymunedau. Mae drafft Cynllun Datblygu Unedol Conwy yn berthnasol i’r cyfan o Fwrdeistref Sirol Conwy, y tu allan i’r Parc Cenedlaethol.
| Cyngor Cymuned / Tref | Cynllun Fframwaith Gwynedd | Cynllun Ardal Llandudno / Conwy | CDU Drafft Conwy | Cynllun Fframwaith Clwyd | Cynllun Lleol Bwrdeistref Colwyn |
|---|---|---|---|---|---|
| Abergele | X | X | |||
| Bae Colwyn | X | X | |||
| Betws y Coed | Parc Cenedlaethol Eryri | ||||
| Betws yn Rhos | X | X | |||
| Bro Garmon * | X | X | |||
| Bro Machno | Parc Cenedlaethol Eryri | ||||
| Caerhun * | X | X | |||
| Capel Curig | Parc Cenedlaethol Eryri | ||||
| Cerrigydrudion | X | X | |||
| Conwy * | X | X | X | ||
| Dolgarrog * | X | X | |||
| Dolwyddelan | Parc Cenedlaethol Eryri | ||||
| Eglwysbach | X | X | |||
| Henryd * | X | X | |||
| Llandudno | X | X | X | ||
| Llanddoged & Maenan | X | X | |||
| Llanddulas & Rhyd y Foel | X | X | |||
| Llannefydd | X | X | |||
| Llanfairfechan * | X | X | |||
| Llanfairtalhaiarn | X | X | |||
| Llanfihangel Glyn Myfyr | X | X | |||
| Llangernyw | X | X | |||
| Llangwm | X | X | |||
| Llanrwst | X | X | |||
| Llansanffraidd Glan Conwy | X | X | X | ||
| Llansannan | X | X | |||
| Llysfaen | X | X | |||
| Mochdre | X | X | |||
| Penmaenmawr * | X | X | |||
| Pentrefoelas | X | X | |||
| Towyn and Kinmel Bay | X | X | |||
| Trefriw * | X | X | |||
| Ysbyty Ifan | Parc Cenedlaethol Eryri | ||||
* Yn rhannol o fewn Parc Cendedlaethol Eryri. Mae Cynllun Fframwaith Gwynedd a Chynllun Lleol Eryri yn rheoli datblygiad yn y Parc Cenedlaethol.